'Ffederasiwn lle mae pob plentyn yn bwysig a lle mae’r dysgu ac addysgu â phwrpas, yn heriol ac yn llawn hwyl gan sicrhau bod safonau yn codi ac yn cael eu cynnal. Mae gan y ffederasiwn ymrwymiad i ddarparu addysgu ysbrydoledig sy’n datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol sy’n rhan annatod o’u cymunedau. Mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu ac yn falch o’u cyflawniadau, sy’n eu paratoi at fywyd y Gymru fodern.’
Annwyl Rhieni a Gwarchodwyr,
Mae’n rhoi pleser mawr i fi gyflwyno i chi, drwy gyfrwng y wefan yma, peth gwybodaeth am ein ffederasiwn o dair ysgol.
Y plant sydd wrth wraidd ac yn sail i bob penderfyniad rydym yn ei wneud. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn hapus, hyderus ac yn unigolion llwyddiannus. Ein nod yw sicrhau cwricwlwm ysgogol fel bod ein disgyblion yn ennyn brwdfrydedd am ddysgu gan ddatblygu dyheadau uchel am lwyddiant eu dyfodol.
Rwy’n ystyried fy hun yn hynod o ffodus o gael arwain tîm ymroddgar o staff sy’n gweithio’n galed er mwyn codi a chynnal safonau uchel. Ein blaenoriaeth yw sicrhau llwyddiant eich plentyn drwy gyd-weithio yn agos gyda chi fel rhieni, y gymuned leol ac ysgolion eraill cyfagos. Rydym o’r farn bod addysg eich plentyn yn bartneriaeth rhwng yr ysgol a’r cartref, ac o ganlyniad yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar bob achlysur.
Does dim amheuaeth gennym, fel staff, y bydd eich plentyn yn ffynnu o dan ein gofal a chefnogaeth. Mae safon yr addysg a’r profiadau y mae eich plentyn yn eu derbyn ar hyd eu gyrfa ysgol, yn sylfaen ac yn eu paratoi at fyd tu hwnt i’w amser yn yr ysgol.
Cofion Gorau
Gethin Richards
Pennaeth
Cliciwch ar y lluniau isod am fwy o wybodaeth ynglŷn a:

Cliciwch ar y lluniau isod i gael mynediad i wefannau cymdeithasol yr ysgolion unigol:
Trydar Ysgol Cwrt Henri
Facebook Ysgol Ffairfach
Trydar Ysgol Talyllychau